Pethau i'w gwneud

Pethau i’w gwneud a llefydd i’w gweld

Mae Ceredigion yn sir brydferth sydd â rhywbeth at ddant pawb gyda’i threfi a’i phentrefi, mynyddoedd y Cambria, Bae Ceredigion, yr arfordir a chyfoeth cynhenid ac amrywiol cefn gwlad. Un o’i nodweddion gorau yw bod yma gymaint o bethau i’w mwynhau, a hynny heb deimlo bod gormod o bobl o gwmpas – lle gwych felly i ymlacio ac i ddianc o ruthr y byd.

Mae Tŷ Barcud wedi’i leoli yng nghanol Dyffryn Ystwyth ac yn fan gwych i brofi holl ogoniannau amrywiol y sir a Bae Ceredigion.

Mae dyffryn afon Ystwyth yn un o’r rhai prydferthaf yng Nghymru gyda choedwigoedd cyfoethog amrywiol, afonydd glân a thiroedd amaethyddol ffrwythlon sy’n llawn prydferthwch drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ffordd sy’n arwain dros Fynyddoedd y Cambria o Raeadr Gwy yn daith a ddisgrifiwyd unwaith gan yr AA fel un o ddeg o deithiau mwyaf golygfaol y byd.

Mae dyffryn Ystwyth yn gyrchfan boblogaidd i gerddwyr, gwylwyr adar a’r rheiny sy’n frwd dros yr awyr agored. Ceir yma lawer o lwybrau wedi’u marcio’n drylwyr – ac mae afon Ystwyth yn ffefryn gyda physgotwyr brithyll a samwn.

Mae cymaint i’w weld, ei wneud a’i ddarganfod yng Ngheredigion – ni fedrwn ond rhoi blas ichi o rai o’r atyniadau gorau sydd agosaf at Dŷ Barcud.

Bwyd a Diod

Rydym am i chi gael pleser wrth fwyta a choginio – mae’n rhan allweddol o unrhyw wyliau da. Mae’r pod yn darparu amrywiaeth dda o offer coginio ar gyfer gwneud prydau syml, ac os hoffech gofleidio bywyd yr awyr agored a bwyta ‘al fresco’ yna mae gan y pod le tân a barbeciw – paratowch wledd o farbeciw gan ddefnyddio cynnyrch lleol blasus.

Os nad ydych yn teimlo fel coginio, mae yna ddigonedd o lefydd da i yfed a bwyta yn yr ardal. Os hoffech fwcio rhywle da i fwyta yn ystod eich arhosiad yma, byddem yn fwy na pharod i argymell nifer o lefydd yn dibynnu ar yr hyn sydd at eich dant.

Os ydych yn dwlu ar fwyd ac am roi cynnig ar fwy o foethau, mentrwch ychydig ymhellach i harbwr Aberaeron ac i westy dymunol yr Harbwrfeistr (01545 570 755) – neu am dân agored, bwyd a chwrw da ewch i Y Talbot (01974 298208) yn nhref wledig Tregaron.

Teithiau diwrnod cyfagos

Ymhle mae dechrau? Dyma i chi rai o’n ffefrynnau

  • Canolfan Coedwigaeth Hamdden Nant yr Arian a Chanolfan Bwydo Barcutiaid Coch
    Teithiau drwy’r goedwig, golygfeydd gwych a thŷ bwyta. Hefyd mae yma lwybrau beicio mynydd byd enwog. Caiff y barcutiaid eu bwydo am 3yp yn yr haf a 2yp yn y gaeaf, ac nid yw’n anghyfarwydd i weld mwy na 100 o farcutiaid coch yn ystod amseroedd bwydo. Mynediad am ddim.
     
  • Ystâd yr Hafod
    Gallwch gyrraedd Ystâd yr Hafod mewn taith ddeng munud o Dŷ Barcud, un o’n hoff lefydd ni. Caiff ei rheoli mewn partneriaeth gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth yr Hafod ac mae ei thiroedd, 200 hectar, yn cael eu disgrifio fel rhai o enghreifftiau gorau Ewrop o ran tirlun pictiwresg. Mae’r Hafod yn le gwych i gerdded ac i ddarganfod gerddi a cherfluniau a gladdwyd gydag amser, rhaeadrau ac ogofâu. Ewch â phicnic, ewch i nofio yn yr afon a threuliwch y diwrnod yno. Mynediad am ddim.
     
  • Rhaeadrau Pontarfynach
    Mae’r rhain werth eu gweld – dyma ffordd wych i dreulio prynhawn ymysg golygfeydd hynod o ddramatig. Ar ôl cerdded o gwmpas y rhaeadrau, cewch baned o de haeddiannol a chacennau yng ngwesty trawiadol Yr Hafod.
     
  • Rheilffordd Cwm Rheidol
    Er nad yw ond 15 munud o Dŷ Barcud, mae’n werth teithio i Aberystwyth i ddal y trên stêm gwreiddiol hwn, a’i linell rheilffordd gul, sy’n rhedeg drwy brydferthwch trawiadol cefn gwlad. Daw’r siwrnai i ben ym Mhontarfynach (gweler uchod), mae’r rhaeadrau ar agor drwy gydol y flwyddyn ac yn costio rhwng £1-2 y pen yn ddibynnol ar ba daith sy’n mynd â’ch dewis. Edrychwch ar wefan y rheilffordd am fanylion cyfredol y prisiau a’r amserlenni.
     
  • Llanerchaeron
    Dyma eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd dim ond 20 milltir o Dŷ Barcud a medrwch dreulio diwrnod cyfan yma’n hawdd. Os yw’n braf, ewch i chwilota’r gerddi â’r waliau o’u cwmpas, buarth y fferm a’r teithiau cerdded drwy’r goedwig. Pan fo’r tywydd yn wlyb, ewch i mewn a chwilota’r tŷ.

Celfyddydau

Os hoffech ymweld â galeri gelf, gwylio ffilm neu fynd i’r theatr, yna anelwch at Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth – sydd wedi’i lleoli uwchlaw’r dref oddi mewn i gampws y brifysgol. Ceir yma ddigonedd o weithgareddau, ac mae’n werth ymweld â’r lle pe bai dim ond i edmygu amrywiaeth y gwaith pensaernïol a’r olygfa ryfeddol dros y dref ac allan at y môr.

Ychydig islaw Canolfan y Celfyddydau mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Mae Amgueddfa Ceredigion, hefyd yn Aberystwyth, yn amgueddfa fach hyfryd sydd wedi’i lleoli yn yr hen goliseum ynghanol y dref. Mynediad am ddim, arddangosfeydd sy’n cael eu newid yn aml a siop anrhegion hyfryd.

Beicio a cherdded

Drwy’r sir, mae yma ddarpariaeth eang o feicio hawdd ac eithafol, a hynny o fewn cyrraedd i Dŷ Barcud.

Ein llwybr beicio agosaf yw Llwybr Ystwyth sy’n llwybr troed a beic prydferth 20 milltir (32.1km), ac mae’n cysylltu Tregaron yn rhan uchaf dyffryn Teifi ag Aberystwyth ar yr arfordir. Mae’n dilyn rhan o drac yr hen linell rheilffordd y Great Western (yn wreiddiol Rheilffordd Manceinion a Milford) rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin.

I gerddwyr, mae yma rywbeth i bawb gydag amrywiaeth gyfoethog o deithiau cerdded ar gyfer y rheiny sy’n dymuno teithiau hamddenol, neu eraill sy’n dymuno teithiau mwy heriol.

Mae’r ardal yn cael ei gwasanaethu’n dda gan Lwybr Arfordir Ceredigion a Chymru, yn ogystal â nifer o opsiynau eraill o fewn mynyddoedd y Cambria a’r wlad o gwmpas.

O fewn ychydig filltiroedd i Dŷ Barcud, ceir nifer o deithiau drwy goedlannau hyfryd a safleoedd picnic sy’n cael eu rheoli gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Yn ogystal, mae yna ddewis da o lwybrau cyhoeddus sy’n cychwyn a gorffen yn Nhŷ Barcud – medrwn eich cynghori’n hwylus ar y gorau o’r rhain.

Trefi a Phentrefi

Aberystwyth yw’r dref fwyaf yng Ngheredigion, tref brifysgol fywiog a thref glan môr. Mae’r cyn dref sirol, Aberteifi, yn ymfalchïo yn ei chastell, nifer o lefydd celfyddyd a siopau annibynnol diddorol. Darganfyddwch bentrefi bychain glan môr a threfi harbwr pictiwresg Aberaeron a Cheinewydd, neu drefi marchnad dyffryn Teifi, sef Llandysul, Tregaron a Llanbed. Mae’r croeso’n gynnes hyd yn oed yn y pentrefi gwledig lleiaf o Geredigion, gyda llu o atyniadau a hanes. Mae gan bob tref stori i’w hadrodd a phob pentref ddirgelwch i’w ddarganfod mewn sir sy’n dyddio nôl dros 1600 o flynyddoedd.

Dewch o hyd i’r lleoliadau a ddefnyddiwyd gan y ddrama dditectif ‘Y Gwyll’, a llefydd a ysbrydolodd waith ffuglennol Dylan Thomas, Llareggub o ‘Dan y Wenallt’.

Am ragor o wybodaeth am Geredigion a llefydd i’w mwynhau, ewch i ymweld â:
Darganfod Ceredigion